Gyda chodiadau mawr i filiau nwy a thrydan yn cael eu rhagweld y gaeaf hwn, mae'n werth darganfod a ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes lle gallwch arbed arian o’ch biliau ynni'r gaeaf.
Mae'n gynllun a gefnogir gan y llywodraeth i helpu i leihau costau os ydych ar incwm isel, yn cael rhai budd-daliadau ac yn ei chael hi'n anodd talu'ch biliau trydan neu nwy.
Felly sut ydych yn gwybod a ydych yn gymwys, sut i wneud cais a sut i gael y gostyngiad hwn? Yma yn HelpwrArian, rydym wedi llunio'r atebion i rai o'r cwestiynau pwysig hynny.
Beth yw’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn rhoi £140 i chi i ffwrdd o’ch bil trydan ar gyfer biliau cyfnod y gaeaf rhwng mis Hydref a mis Mawrth 2021/22.
Nid yw'r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi. Yn lle hynny, rhoddir gostyngiad ar eich bil trydan. Gallech hefyd gael arian oddi ar eich bil nwy os yw'ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi (a elwir yn dariff tanwydd deuol).
A allaf gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae dwy brif ffordd y gallwch fod yn gymwys:
1. Os ydych yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
I fod yn gymwys:
- mae'n rhaid i’ch enw chi neu’ch partner neu'ch priod fod ar y bil
- rydych chi neu'ch partner neu'ch priod yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
- rydych gyda chyflenwr ynni sy'n cynnig y Gostyngiad Cartref Cynnes
2. Rydych ar incwm isel ac yn cael budd-daliadau penodol
I fod yn gymwys:
- Ydych chi gyda chyflenwr ynni sy'n cynnig y Gostyngiad Cartref Cynnes
- Rydych ar incwm isel, yn cael rhai budd-daliadau prawf modd ac mewn perygl o dlodi tanwydd
Mae gwledydd yn y DU yn mesur tlodi tanwydd yn wahanol
- Yn Lloegr, cewch eich asesu os oes gennych incwm isel a chostau cartref uchel.
- Yng Nghymru ar Alban, cewch eich asesu fel eich bod mewn tlodi tanwydd os ydych yn gwario mwy na 10% o incwm eich cartref ar gostau ynni.
- Yng Ngogledd Iwerddon, nid yw'r Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gael ond mae cynlluniau ynni a grantiau a allai helpu gydag arbed ynni.
Pa fudd-daliadau sy’n gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae hyn yn dibynnu ar gynllun eich cyflenwr, ond efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn cael un o'r budd-daliadau prawf modd canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (sy’n cynnwys yr elfen gweithgaredd sy'n gysylltiedig â Gwaith neu’r elfen gymorth)
- Budd-dal Tai
- Cymorth ar Gyfer Llog Morgais (wedi’i dalu fel benthyciad)
- Credyd Cynhwysol (elfennau incwm isel)
Mae’n rhaid i Gredyd Cynhwysol hefyd gynnwys un o’r taliadau hyn:
- Elfen plentyn ar gyfer plant 5 oed neu lai
- Elfen plentyn anabl
- Premiwm anabledd neu bensiynwr
Sut wyf yn gwneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae sut rydych yn gwneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn dibynnu ar sut rydych yn gymwys am y gostyngiad.
1. Os ydych yn cael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
Fel rheol, cymhwysir y gostyngiad yn awtomatig heb fod angen i chi wneud unrhyw beth.
Dylech dderbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2021 i roi gwybod i chi a oes angen i chi gymryd unrhyw gamau neu gadarnhau unrhyw fanylion gyda hwy
2. Os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau penodol
Mae'n rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i'ch cyflenwr am ostyngiad ac yn gyffredinol fe'i rhoddir ar sail y cyntaf i'r felin.
Y cyflenwr trydan sy'n penderfynu pwy all gael gostyngiad, ac os ydych yn gymwys byddant yn dweud wrthych sut i wneud cais.
Pryd allaf wneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae'r cynllun yn agor ar 18 Hydref 2021. Ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel ac sy'n cael budd-daliadau penodol, argymhellir eich bod yn gwirio gyda'ch cyflenwr trydan cyn gynted â phosibl i weld a ydych yn gymwys.
Pa gwmnïau ynni sy'n cynnig y Gostyngiad Cartrefi Cynnes?
Mae yna nifer o gyflenwyr ynni sy'n cynnig y gostyngiad hwn. Nid yw pob cyflenwr yn cymryd rhan yn y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, felly efallai y bydd angen i chi gadw hyn mewn cof os ydych yn ystyried newid cyflenwr.
Beth os oes gen i fesurydd talu rhagdaledig neu dalu wrth ddefnyddio?
Os ydych yn defnyddio mesurydd talu rhagdaledig neu dalu wrth ddefnyddio, gallwch barhau i fod yn gymwys am y gostyngiad. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i'ch cyflenwr trydan a chyn belled eich bod yn gymwys, byddant yn dweud wrthych sut y gallwch gael y gostyngiad.
A fydd y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn effeithio ar daliad tywydd oer neu fy nhaliad tanwydd gaeaf?
Na, nid yw talu Gostyngiad Cartref Cynnes yn effeithio ar eich hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Tywydd Oer.
Darganfyddwch fwy am daliad tywydd oer
Darganfyddwch fwy am daliadau tanwydd gaeaf
Pa ffyrdd eraill y gallaf arbed arian ar fy miliau ynni?
Darganfyddwch sut y gallwch arbed arian a lleihau eich biliau ynni trwy gysylltu â Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
Rwy'n ei chael hi'n anodd talu fy miliau ynni, beth alla i ei wneud?
Os ydych yn cael trafferth talu'ch biliau, gallwch gael yr help rydych ei angen trwy gysylltu â: Help i dalu eich bil nwy neu drydan
What do you think?
We really want you to share your views, but please remember to be nice ☺
All fields are required. Check out our full commenting guidelines